Llwybr Ceffyl yn arwain o Ffarm Clynsaer at Esgair Fwyog. Mae'r heol yn croesi Nant Hirgwm a bu trac hefyd yn arwain i fyny'r cwm at ffermdai sy bellach yn adfeilion. Ar hyd y grib yn y pellter rhedai Heol Rufeinig a gysylltai Gaer Alabum (Llanymddyfri) a Chastell Collen (ger Llandrindod). Bu'r porthmyn hefyd yn gyrru anifeiliaid ar hyd yr heol hon tuag at y marchnadoedd yn Lloegr ac mae enw'r drum sef Cefn Llwydlo (Ludlow Ridge)o bosibl yn cyfeirio at hyn.
Uploaded to Geograph by Alan Richards on 7 April 2011
Photo © Alan Richards, 7 April 2011.
Licensed for reuse under this Creative Commons licence