Dyma ffermdy gwag Tir Cyd (gwedd artifisial ddigymeriad bellach) ar odre Mynydd Epynt, Sir Frycheiniog ac mae'r ty wedi bod yn wag er 1940 pan orfodwyd Benjamin Price a'i wraig a chwech o'u plant ynghyd a 53 o deuleuodd eraill o'r mynydd i adael eu ffermydd gan y Weinyddiaeth Amddiffyn er sefydlu maes tanio. Gwasgarwyd y teuluoedd o amgylch y siroedd cyfagos ac aeth Benjamin a'i deulu i Benderyn ger Hirwaun ymhell o'i gartref a chapel bach Sardis lle y bu'n ddeacon. O ganlyniad i'r weithred drychinebus hon a thros nos fel petai fe symudwyd ffin yr iaith Gymraeg yn Sir Frycheiniog ddeng milltir i'r gorllwein.
Uploaded to Geograph by Alan Richards on 5 March 2011
Photo © Alan Richards, 5 March 2011. Licensed for reuse under this Creative Commons licence