Mae'r maenhir yn dyddio nol i'r Oes Bres ond nid yma yw ei safle gwreiddiol. Yn 1825, o dan orchymyn Mr J.J Holford, Plas Cilgwyn, symudwyd y garreg o gae ar dir Ffarm Pentwyn, Myddfai i'w safle presennol. Bu raid gwneud hyn gyda chymorth 25 o geffylau. Cafwyd yr enw 'Carreg Sant Pawl' ar ol i dabled (ffug) gael ei darganfod o dan y maenhir yn honni bod Sant Pawl wedi pregethu yma yn AD 48! Ar y garreg ceir y geriau canlynol 'St Paul's Marble from Pentwyn Farm. Property of JJ Holford ESQ. Placed here 10th March 1825 by JJ Jun'r'.
Uploaded to Geograph by Alan Richards on 17 November 2007
Photo © Alan Richards, 17 November 2007. Licensed for reuse under this Creative Commons licence