Bethel, Capel yr Annibynnwyr, Llansamlet. Bu aelodau cynnar yr achos hwn yn addoli yn ystod y 18g ar odre Mynydd y Drumau cyn symud i ffermdai agosach megis Talchopa Evan a Thai Eshter. Codwyd y capel cyntaf yn 1818 a'r ail yn 1850. Mae'r addoldy presennol yn dyddio o 1880 ac yn eitedd 900 o bobl. Yn y dyddiau a fu safai'r hen gapeli ar y ffordd fawr i Gastell Nedd.
Uploaded to Geograph by Alan Richards on 15 March 2013
Photo © Alan Richards, 15 March 2013. Licensed for reuse under this Creative Commons licence