Aber-gelli-fâch Plantation, Swansea

Y Felin (Felindre Mill)

Uploader's Comments

Ymddengys fod melin yd wedi bod ar y safle hwn ers y 19g o leiaf. Dyddia'r felin bresennol o'r 19g cynnar. Yn 1856 wrth briodi Hannah Bowen, gweddw John Bowen, daeth Griffith Philip o Felin Lliw, Pontlliw, yn felinydd ar y lle. Erbyn 1861 bu farw Hannah ac yn y cyfamser roedd Griffith wedi priodi ei lys ferch, Mary Bowen,a hithau dim ond yn 19 oed ac yntau yn 64! Yn ystod cyfnod Griffith Philip bu'r felin yn dafarn sef y Millers Arms ac yma yn Mis Tachwedd 1868 y canhaliwyd cwest i mewn i lofruddiaeth John Morgan o Ffarm yr Henglawdd. Cafwyd y ddifinydd, Henry Evans, yn ddieuog. Caewyd y felin yn ysod 1960au ond fe'i gweithwyd unwaith eto yn 1980 yn ystod Eisteddfod Genedlaethol Dyffryn Lliw yn Nhregwyr. Yn 1990 bu farw William Henry Jones, melinydd olaf Felindre yn 90 oed. Hyd yn gymaharol ddiweddar gwyngalchwyd yr adeilad.

Uploaded to Geograph by Alan Richards on 19 June 2012

Creative Commons License Photo © Alan Richards, 19 June 2012. Licensed for reuse under this Creative Commons licence

Photo Navigator

BritishPlaceNames.uk is a Good Stuff website.